Psalms 84

Hiraeth am Dŷ Dduw

I'r arweinydd cerdd: Salm meibion Cora, ar yr alaw, “Y Gwinwryf”.

1Mae lle rwyt ti'n byw mor hyfryd,
O Arglwydd holl-bwerus!
2Dw i'n hiraethu; ydw, dw i'n ysu
am gael mynd i deml yr Arglwydd.
Mae'r cyfan ohono i yn gweiddi'n llawen ar y Duw byw!
3Mae hyd yn oed aderyn y to wedi gwneud ei gartre yno!
Mae'r wennol wedi gwneud nyth iddi ei hun,
i fagu ei chywion wrth ymyl dy allor di,
O Arglwydd holl-bwerus,
fy Mrenin a'm Duw.
4Y fath fendith sydd i'r rhai sy'n aros yn dy dŷ di!
Y rhai sy'n dy addoli di drwy'r adeg!

 Saib
5Y fath fendith sydd i'r rhai wyt ti'n eu cadw nhw'n saff,
wrth iddyn nhw deithio'n frwd ar bererindod i dy deml!
6Wrth iddyn nhw basio trwy ddyffryn Bacha,
byddi di wedi ei throi yn llawn ffynhonnau!
Bydd y glaw cynnar
84:6 glaw cynnar Roedd y glaw cynnar yn dod yn Hydref/Tachwedd, a'r glaw diweddar yn Mawrth/Ebrill
wedi tywallt ei fendithion arni.
7Byddan nhw'n symud ymlaen o nerth i nerth,
a byddan nhw i gyd yn ymddangos o flaen Duw yn Seion.
8O Arglwydd Dduw holl-bwerus,
gwrando ar fy ngweddi!
Clyw fi, O Dduw Jacob.

 Saib
9Edrych ar y brenin, ein tarian ni, O Dduw!
Edrych yn ffafriol ar yr un wnest ti ei eneinio.
10Mae un diwrnod yn dy deml yn well na miloedd rhywle arall!
Byddai'n well gen i aros ar drothwy tŷ fy Nuw
na mynd i loetran yng nghartrefi pobl ddrwg.
11Mae'r Arglwydd Dduw yn haul ac yn darian i'n hamddiffyn ni!
Mae'r Arglwydd yn garedig ac yn rhannu ei ysblander gyda ni.
Mae e'n rhoi popeth da i'r rhai sy'n byw yn onest.
12O Arglwydd holl-bwerus,
y fath fendith sydd i rywun sy'n dy drystio di!
Copyright information for CYM